Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg BA (Hons)

Reino Unido

1

¿Qué aprenderé?

Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies and Sociology, X315.Mae'r pynciau hyn yn eich galluogi i astudio materion sy'n effeithio ar fywydau plant yng nghyd-destun ehangach strwythurau cymdeithasol. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau sy'n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid yn yr 21ain ganrif ac yn ymchwilio i fywyd cymdeithasol a'r ffordd y mae'n dylanwadu ar ein hymddygiad, ein credoau a'n hunaniaeth. Byddwch yn ymdrin â chysylltiadau beunyddiol bywyd bob dydd, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a phrosesau byd-eang i gael gwell dealltwriaeth ar effaith y byd cymdeithasol ar blant a phobl ifanc.Mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg yn cyd-fynd â’i gilydd yn naturiol. Maent yn cefnogi dull cyfun o ddeall datblygiad plant a phobl ifanc o safbwyntiau cymdeithasol, gan annog dealltwriaeth o'r elfennau hyn yn y meysydd sy'n effeithio fwyaf ar fywydau plant a phobl ifanc, megis eu haddysg, eu rhyngweithio â chyfoedion ac oedolion a'u lles. Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i astudio Cymdeithaseg fel rhan o radd gydanrhydedd (50% Cymdeithaseg, 50% Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid).Ymchwil i fywyd cymdeithasol a'r ffordd y mae'n siapio ymddygiad, credoau a hunaniaeth pobl yw cymdeithaseg. Mae'r maes yn cynnwys archwilio ymwneud beunyddiol pobl â'i gilydd, wyneb yn wyneb, sefydliadau cymdeithasol mawr, mudiadau cymdeithasol a phrosesau byd-eang. Trwy ddeall y byd cymdeithasol, rydym yn ennill gwell dealltwriaeth ohonom ein hunain a'n sefyllfaoedd cymdeithasol ein hunain. Yn y rhan Plentyndod ac Ieuenctid y cwrs, byddwch yn astudio pynciau arloesol, a arweinir gan staff addysg profiadol, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant.Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

¿En cuál departamento estoy?

School of Education

Opciones de estudio

a tiempo completo (3 )

Costos de estudio
Información no disponible

Por favor, consulte a la institución

Fecha de inicio

Septiembre 2025

Lugar

Main Site

Bangor University,

Bangor, Gwynedd,

LL57 2DG, WALES, Wales

Puede haber diferentes requisitos de IELTS en función del curso elegido.

AÑADIR A MIS FAVORITOS

Acerca de Bangor University

Las instalaciones de Bangor y su profesorado garantizan que todos los alumnos disfruten de un programa de estudios personalizado y enriquecedor.

  • Amplia gama de respetadas opciones de cursos
  • Amplias instalaciones diseñadas para adaptarse a cada escuela
  • Impresionante red de apoyo para todos los estudiantes
  • Ubicada cerca de las principales ciudades de fácil acceso

Ponte en contacto